|
Y
Gystadleuaeth
I Newyddion
I Ffurflen Gais I Seremoni
Wobrwyo
Noddwyr I Categoriau
I Tocynnau I Cysylltwch
Cwmni'r Flwyddyn yng Nghymru
Mae’r wobr hon yn cydnabod perfformiad rhagorol gan gwmni sydd â’i bencadlys yng
Nghymru. Mae’r beirniaid yn chwilio am dystiolaeth o sail wybodaeth gref o ran creu swyddi yn y
gorffennol, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, cefnogaeth y cwmni tuag at uwch-dechnoleg a’i ragolygon o ran cynnydd yn y
dyfodol. Bydd y beirniaid hefyd yn ystyried perfformiad marchnata’r cwmni yn ogystal â’i ymrwymiad cyffredinol i leoli’r busnes yng Nghymru wrth gyflwyno’r wobr hon y rhoddir cymeradwyaeth uchel
iddi. Cyflwynir y wobr hon yn ôl disgresiwn y panel beirniadu.
Dyddiad cau: 28 Mawrth
Cyflawnwr Busnes y Flwyddyn
Bydd enillydd y wobr nodedig hon yn ffigur blaenllaw sy’n cynrychioli busnes a masnach ledled Cymru a’r
DU. Cyflwynir y wobr hon yn ôl disgresiwn y panel beirniadu.
Dyddiad cau: 4 Ebrill

Busnes Bach y Flwyddyn yng Nghymru
Mae Busnesau Bach a Chanolig eu maint yng Nghymru yn parhau i fod yn elfennau blaenllaw yn ein twf economaidd a diben y wobr hon yw cydnabod cyflawniad rhagorol ym myd busnes dros y blynyddoedd
diwethaf. Croesawir ceisiadau i’r categori hwn gan sefydliadau sydd â llai na 50 o staff. Mae potensial y cwmni o ran
twf, arloesedd ac ymrwymiad i Gymru’n allweddol i ennill y wobr hon y mae cystadleuaeth fawr
amdani.
Dyddiad cau: 14 Mawrth
Cwmni Datblygu Pobl y Flwyddyn yng Nghymru
Fe’i dyfernir i gwmni sy’n gwbl ymrwymedig i ddatblygu talent yn y cwmni drwy ddatblygu
gyrfa. Mae’r beirniaid wedi ystyried p’un a yw hyrwyddo hyfforddiant a datblygu staff yn gyson wedi cael effaith gadarnhaol ar berfformiad unigolion a’r
cwmni. Mae’n bosibl y cynhaliwyd yr hyfforddiant drwy gyfres o ymagweddau arloesol a rhyngweithiol a thrwy wneud defnydd effeithiol o TG. Bydd y cwmni buddugol hefyd yn dangos ei ymrwymiad i greu gwell dealltwriaeth o fusnes a
pherfformiad.
Dyddiad cau: Dydd Gwener, 17 Mawrth
Cyflawnwr Busnes Ifanc y Flwyddyn
Anelir y wobr hon at bobl rhwng 18 a 30 oed, a’i nod yw annog pobl ifanc i ddangos eu bod hwy hefyd wedi llwyddo yn y gymuned
fusnes. Er efallai nad oes ganddynt gyllideb o filiynau o bunnoedd na blynyddoedd mawr o
brofiad, mae eu cyfraniad i’r economi ac i’r byd busnes yng Nghymru yn
hanfodol.
Noddir gan: UWIC, Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd; a PFK
Dyddiad cau: 28 Mawrth
Busnes Dwyieithog
Crëwyd y categori newydd hwn i amlygu pwysigrwydd defnyddio dwyieithrwydd yn llwyddiannus i
sefydliad. Bydd y beirniaid yn ystyried p’un a yw’r busnes wedi llwyddo i ddiffinio’n glir angen masnachol ar gyfer
dwyieithrwydd, p’un a yw wedi cymryd camau i ddod o hyd i ddatrysiadau ac a weithredwyd y
datrysiad. Mae’n rhaid i’r busnes feddu ar dystiolaeth o fanteision defnyddio’r Gymraeg a chyflwyno syniadau ar gyfer ei defnyddio
ymhellach. Yn bwysicaf oll, bydd y cwmni’n gosod esiampl dda i
eraill.
Noddir gan: Bwrdd yr Iaith Gymraeg
Dyddiad Cau: 28 Mawrth
Cwmni Arloesol y Flwyddyn yng Nghymru
Datblygwyd y categori hwn i gydnabod cyflawniadau cwmnïau sydd ar y rheng flaen o ran arloesedd ac sy’n cyfrannu at ffyniant Cymru’n
gyffredinol. Bydd ceisiadau’n dangos bod y cwmni wedi sefydlu’n effeithiol dulliau newydd o
gynhyrchu, cyflenwi neu ddosbarthu, wedi cyflwyno newidiadau ym maes
rheoli, trefnu gwaith, amodau gwaith a sgiliau’r gweithlu ac wedi creu patrymau defnyddio
newydd.
Noddir gan: The CADCentre
Dyddiad Cau: Dydd Mercher, 24 Mawrth
Gwobr
Rhagoriaeth
eFasnach
Bydd y beirniaid yn asesu pob cais yn y categori hwn yng nghyd-destun sut y mae’r datrysiad eFasnach yn bodloni dibenion y
busnes. Chwilir am geisiadau o’r sector preifat, cyhoeddus a
gwirfoddol. Mae’r effaith a gynlluniwyd ar fusnes, y manteision masnachol
gwirioneddol, cymhwyso technoleg a safon yr arloesedd yn ffactorau pwysig ar gyfer beirniadu’r categori
hwn, yn yr un modd â’r gallu i ddangos eich bod wedi gwneud cynnydd graddol o ran
eFasnach. Mae’r categori hwn ar agor i sefydliadau bach a chanolig eu maint yn
unig.
Noddir gan: Admiral
Dyddiad cau: 4 Ebrill
Gwobr Rhagoriaeth Marchnata
Crëwyd y categori hwn i amlygu pwysigrwydd ymgyrchoedd marchnata llwyddiannus i
sefydliad. Bydd y beirniaid yn ystyried nodau a chyflawniadau’r
ymgyrch, y broses o ymchwilio, cynllunio, gweithredu a mesur yr
ymgyrch. Bydd hefyd rhaid i ymgeiswyr ddarparu enghreifftiau pendant a phenodol o
lwyddiant.
Noddir gan: Llywodraeth Cynulliad Cymru
Dyddiad cau : 4 Ebrill
Cliciwch am fyw o manylion:
Newyddion
Ffurflen Gais
Seremoni
Wobrwyo
Noddwyr
Categoriau
Tocynnau
Cysylltwch
|
|