Home... News... Events... Clients... Tickets... Links... Contact Us...

 

Y Gystadleuaeth  I  Newyddion  I  Ffurflen Gais  I  Seremoni Wobrwyo  I  Noddwyr
FAQs  I  Categoriau  I  WOW  I  Cysylltwch


FREQUENTLY ASKED QUESTIONS

Please select a question for more details.

Details:

  • A ALL UNRHYW GYSTADLU?

    Gallant! Ac nid oes rhaid bod eich gwreiddiau yng Nghymru. Mae'r gwobrau hyn yn agored i bob merch sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru, beth bynnag fo'u hoedran, eu proffesiwn neu eu grwp ethnig.

    Yn ol i'r cwestiynnau

  • SUT Y GALLAF GYSTADLU?

    Gallwch gystadlu yn y gwobrau eich hun neu gallwch enwebu rhywun arall. Ffoniwch ni ar 029 2066 8357 i gael rhagor o wybodaeth neu i gael ffurflen gais.

    Yn ol i'r cwestiynnau

  • SUT Y DEWISIR YR ENILLWYR?

    Bydd panel o feirniaid yn dewis tair o bob categori i fynd i'r rownd derfynol. Fel un sydd yn y rownd derfynol, bydd angen i chi fynychu cyfarfod gyda phanel beirniaid y categori y buoch yn cystadlu ynddo. Cyhoeddir enillwyr y categorïau yn y seremoni wobrwyo cyn cyhoeddi enillydd teitl Cymraes y Flwyddyn y Western Mail. Ceir manylion o ble i anfon enwebiad yn ddiweddarach yn y llyfryn hwn.

    Yn ol i'r cwestiynnau

  • PRYD Y CYFLWYNIR Y GWOBRAU?

    Cynhelir y seremoni wobrwyo ddydd Gwener, Tachwedd 21 yn Arena Rhyngwladol Caerdydd. Caiff pob un sydd yn y rownd derfynol docyn am ddim i fynychu'r seremoni a'r cyfle i brynu tocynnau ychwanegol am bris gostyngol.

    Mae'r galw am docynnau yn uchel, felly sicrhewch na fyddwch yn colli'r cyfle! I gadw eich lleoedd, ffoniwch y llinell frys ar 029 2066 8357.

    Yn ol i'r cwestiynnau

 

 
  © Copyright Media Wales Events 2008

Design This Can Multimedia