|
Y Gystadleuaeth
I Newyddion
I Ffurflen Gais I
Seremoni Wobrwyo I Noddwyr
FAQs I Categoriau
I WOW I Cysylltwch
|
|
Categoriau
DETAILS:
- CYFLAWNIAD YM MAES RHEOLI
Mae'r categori hwn yn agored i ferched llwyddiannus sy'n perfformio mewn rôl reoli o fewn y sector preifat neu'r sector cyhoeddus sydd wedi dangos arweinyddiaeth gref ac arloesedd yn eu hymagwedd i reoli, ac o ganlyniad wedi llwyddo i newid eu hamgylchedd gwaith, gan ystyried amrywiaeth y
gweithlu.
Yn ôl
- DYCHWELYDD MWYAF EFFEITHIOL I’R GWEITHLE
Nod y categori hwn yw arddangos cyflawniad merched sydd wedi dychwelyd i’r gwaith yn ystod y pum mlynedd diwethaf ar ôl cymryd egwyl o naw mis neu fwy o’u gyrfa i fagu teulu, gofalu am berthynas neu deithio. Beth bynnag fo'r rheswm, bydd yr egwyl gyrfa hon yn galluogi ymgeiswyr i ddangos pwysigrwydd ailhyfforddi a manteision defnyddio'r profiad a enillwyd y tu allan i'r
gweithle.
Yn ôl
- PERCHENNOG BUSNES BACH
Ar gyfer merched sydd wedi llwyddo i sefydlu ac yn parhau i reoli eu busnesau eu hunain. Bydd y busnes wedi bod yn masnachu am o leiaf dwy flynedd ond heb fod yn cyflogi mwy na hanner cant o bobl er mwyn cael ei ystyried ar gyfer y wobr hon.
Yn ôl
- MERCH YM MAES GWYDDONIAETH A THECHNOLEG
Ar gyfer merched sy’n gweithio mewn meysydd yn ymwneud â gwyddoniaeth a thechnoleg mewn cynhyrchu a diwydiant, academia neu’r sector cyhoeddus. Mae’r categori hwn yn gyfle i ferched sy’n gweithio mewn meysydd o waith sy’n draddodiadol wedi eu dominyddu gan ddynion gyda chyfle i arddangos sut mae eu gweithgareddau wedi bod o fudd i’w maes yng
Nghymru.
Yn ôl
- MERCH YN Y GYMUNED
Ar gyfer merched sy’n chwarae rhan weithredol a gwerthfawr yn eu cymuned. Gallai hyn fod yn swyddogaeth wirfoddol neu gyflogedig. Croesewir diddordeb o’r meysydd canlynol: gwaith gofal, elusen, hamdden a’r
amgylchedd.
Yn ôl
- GWOBR VAL FELD Y WESTERN MAIL
Fel y Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer Adeiladu, rydym yn annog merched i ymuno â'r gweithlu adeiladu yn y DU ac i gyfrannu eu harbenigedd i'n diwydiant pwysig. Nod y categori "Merch ym Maes Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig" yw cydnabod y cyfraniad pwysig i'r amgylchedd yng Nghymru a wnaed gan y merched hyn.
Yn ôl
- MERCH YN Y CELFYDDYDAU A’R CYFRYNGAU
Mae’r categori hwn yn dathlu cyflawniad merched sy’n chwarae rhan bwysig wrth bortreadu delwedd bositif o Gymru trwy’r celfyddydau a’r cyfryngau. Gall ymgeiswyr weithio mewn nifer o feysydd o'r celfyddydau a'r cyfryngau ledled yr ardal, megis crefftau a'r celfyddydau gweledol drwy gyfrwng pensaernïaeth, ffotograffiaeth ac addysg y celfyddydau gweledol, y celfyddydau perfformio, neu gan unigolion sy'n gweithio ym mhob maes o'r cyfryngau gan gynnwys y wasg, radio, teledu, marchnata, cysylltiadau cyhoeddus, hyrwyddo gwerthiannau a'r cyfryngau
newydd.
Yn ôl
- MENTER YR IFANC CYMRU – CYFLAWNYDD IFANC
Wedi ei anelu ar ferched ifanc rhwng 15-19 oed sydd wedi cymryd rhan yn Rhaglen Cwmni Menter yr Ifanc ac sydd wedi dangos dealltwriaeth o waith tîm, cyfathrebu ac arweinyddiaeth a gallu i'w cyflawni drwy'r prosiect busnes ymarferol o reoli eu cwmni eu hun tra'n parhau mewn addysg llawn
amser.
Yn ôl
- MERCH YN HYRWYDDO DEMOCRATIAETH
Mae'r categori newydd hwn ar gyfer merched sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i hyrwyddo democratiaeth yn lleol, rhanbarthol, cenedlaethol neu ledled Ewrop drwy fynd ati i gynorthwyo ac annog dinasyddion i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd.
Yn ôl
- MERCH FEL MENTRWR
Datblygwyd y categori hwn i gydnabod gorchestion unigolyn sydd yn rheng flaen arloesedd yng Nghymru. Bydd ymgeiswyr yn gallu arddangos gallu i fanteisio ar syniadau newydd yn llwyddiannus - gan ymgorffori technolegau newydd, dylunio ac arferion mentrus yn gynnyrch neu'n wasanaethau newydd neu well. Ceisir ymgeiswyr i'r categori hwn o'r sector preifat yn
unig.
Yn ôl
|
|
|
|
|
|
|