Home... News... Events... Clients... Tickets... Links... Contact Us...

 

Y Gystadleuaeth  I  Newyddion  I  Ffurflen Gais  I  Seremoni Wobrwyo  I  Noddwyr
FAQs  I  Categoriau  I  WOW  I  Cysylltwch


Enillwyr 1994-2005

1994 Dr Elizabeth Haywood 
“Mae'r Gwobrau yn gadarnhad ac yn ddathliad o'r hyn y gall merched ei gyflawni ar rinwedd, oherwydd ein bod yn dda yn yr hyn a wnawn. Mae angen tystiolaeth o'r newydd bob blwyddyn o'n llwyddiant.”
1995 Lynda Lumb
“Mae merched yng Nghymru mor dalentog fel y gallwn, gyda'n gilydd, newid y byd a'i wneud yn well lle i bawb.”
1996 Yr Athro Ilora Finlay
“Mae'r anrhydedd fwyaf a'r anogaeth gryfaf yn dod pan gydnabyddir eich ymdrechion yn eich gwlad eich hun. Mae merched yn gweithio, yn aml heb gydnabyddiaeth, ym mhob agwedd ar gymdeithas yng Nghymru. Mae ansawdd y cyfleoedd yn dibynnu'n rhannol ar gydnabod cyflawniadau merched, felly byddwn yn annog pawb i gwblhau'r ffurflenni, edrych ar faint a gyflawnwyd gennych hyd yn hyn a llongyfarch eich hun ar yr hyn a wnaethoch yn eich maes eich hun ac yn eich bywyd.”

1997 Angela Gidden
“Roedd cystadlu yn y gwobrau yn gamp ynddo'i hun. Roedd ennill yn newid bywyd yn llwyr. Y wobr - rôl lle y gallaf ysbrydoli a chael fy ysbrydoli.”

1998 Yr Athro Valerie Randle
“Galluogodd bod yn Gymraes y Flwyddyn i mi godi proffil gwyddoniaeth a pheirianneg fel gyrfa i ferched. Ac roeddwn yn gallu dangos nad oedd rhaid i chi fod yn Arwres i lwyddo!”

1999 Ann Taylor
“Mae Cymraes y Flwyddyn yn ddigwyddiad cyffrous i ferched; i'r rhai sy'n derbyn gwobrau ac i'r rhai sy'n edrych am ysbrydoliaeth. Mae'n cydnabod y swyddogaeth sydd gan ferched yn y cartref ac yn y gweithle ac yn ein galluogi i ddysgu o'u cyflawniadau.”

2000 Dr Olwen Williams
“Roedd bod yn Gymraes y Flwyddyn yn brofiad a gyfoethogodd fy mywyd, a roddodd yr hunan gred i mi wthio ffiniau ymlaen na fyddwn wedi eu herio fel arall. Gall newid yr agwedd 'pam fi?' i 'pam nad fi?' ddechrau i chi drwy gwblhau'r ffurflen gais ar gyfer Cymraes y Flwyddyn eleni - ewch amdani!”
2001 Tanni Grey-Thompson
“Gobeithiaf fy mod wedi annog eraill, nid yn unig i gael breuddwyd ond i anelu'n uchel, beth bynnag fo'u nod a'u breuddwydion.”

2002 Jacqueline Royall
“Mae bywyd yn gyflym, yn gynhyrfus, prin y cymerwn gyfle i fyfyrio, gan wynebu her y diwrnod nesaf drwy'r amser. Dyma eich cyfle i werthfawrogi, rhannu ac ysbrydoli eraill wrth ddathlu eich cyflawniadau.”

2003 Sarah Cornelius
“Roedd ennill yn fythgofiadwy. Roeddwn wedi fy syfrdanu’n llwyr, ond yn falch ar yr un pryd, nid dim ond i mi fy hun, ond yn bwysicach, i fy holl staff a oedd yno ar y noson. Roedd yn wych i rannu noson o'r fath gyda thîm sydd wedi gweithio mor galed i wneud i gymaint o freuddwydion ddod yn wir i blant sydd â chanser marwol. Mae'r teitl wedi gwneud cymaint o wahaniaeth ac mae wedi bod yn fraint ffantastig.”

2004 Susan Balsom
“Mae ennill Cymraes y Flwyddyn wedi golygu gymaint i mi ac i'm cydweithwyr a'm partneriaid busnes a'm hanogodd i gystadlu. Mwynheais bob agwedd ar y gystadleuaeth yn fawr iawn ac mae seremoni Cymraes y Flwyddyn yn ddathliad gwych o gyfraniad merched i bob agwedd ar fywyd yng Nghymru.”

2005 Karen Robson
“Mae gan bob un ohonom y sgiliau a'r adnoddau sydd eu hangen arnom. Mae'r hyn a wnawn gyda hwy yn dibynnu arnom ni.” (anhysbys)

“Mae'r dyfyniad hwn yn crynhoi hanfod Gwobrau 
Cymraes y Flwyddyn. Mae merched ledled Cymru yn ymgymryd â gwaith anhygoel ac ysbrydoledig, yn aml heb gydnabyddiaeth am y cyfraniad a roddant i fywyd Cymru. Mae'r Wobr hon yn rhoi cyfle i ddangos y gwerthfawrogir y gwaith hwn.”

2006 Siân Eirian
"Mae bod yn rhan o wobr Cymraes y Flwyddyn yn brofiad gwych. Boed rhywun yn ennill neu beidio, mae’n gyfle i ganolbwyntio ar ein cryfderau; y cyfoeth o sgiliau a phrofiad sydd yma yng Nghymru a’r gwahanol faesydd mae’r sy’n cael eu cydnabod drwy gyfrwng y wobr unigryw hon. Does dim angen meddwl ddwywaith am gystadlu - ewch amdani!"
2007 Rhoda Emlyn Jones
“Roedd derbyn gwobr Cymraes y flwyddyn yn ddigwyddiad arbennig a hapus iawn i mi a'm cydweithwyr. Mae wedi rhoi llwyfan aruthrol ar gyfer y materion rydym yn frwdfrydig yn eu cylch. Mae'r wobr yn parhau i roi sylw i lwyddiannau merched yng Nghymru sy'n cael eu hanwybyddu yn aml.”

 


 
  © Copyright Media Wales Events 2008

Design This Can Multimedia