Home... News... Events... Clients... Tickets... Links... Contact Us...

 

Y Gystadleuaeth  I  Newyddion  I  Ffurflen Gais  I  Seremoni Wobrwyo  I  Noddwyr
FAQs  I  Categoriau  I  WOW  I  Cysylltwch


NEGES Y NODDWRAIG

Bob blwyddyn, mae gwobr Cymraes y Flwyddyn yn arddangos talent merched Cymru. Mae ein gwobrau'n dathlu'r cyfraniad mawr y mae merched yn ei wneud ym mhob agwedd ar fywyd Cymru - mewn diwydiant, gwyddoniaeth, cymunedau, busnes, y cyfryngau ac addysg. Mae'n gyfle i ni amlygu llwyddiannau merched Cymru a dathlu talent eang merched ein gwlad.

Wrth deithio o amgylch Cymru rwyf bob amser yn cwrdd â merched ysbrydoledig ac sydd â straeon anhygoel i'w hadrodd, ond eto pan fyddaf yn awgrymu y dylent enwebu eu hunain ar gyfer gwobr Cymraes y Flwyddyn eu hymateb bob tro yw "Go iawn? Fi?" Yn wir, y ffaith drist yw nad ydym yn aml yn llwyr werthfawrogi nac yn sylweddoli ar yr hyn y gall merched ei wneud, a'r hyn y maent yn ei gyflawni.

Dyma pam bob blwyddyn rwy'n apelio ar yr holl ferched hynny sy'n haeddu bod ar y llwyfan ym mis Tachwedd i ddod ymlaen ac adrodd eu hanes wrthym - neu i ffrindiau a chydweithwyr ddweud wrthym am y merched y credant sy'n haeddu cydnabyddiaeth ond sy'n amharod eu hunain i gydnabod eu bod, yn eu bywydau bob dydd, yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywyd yng Nghymru.

Glenys Kinnock ASE

 


 
  © Copyright Media Wales Events 2008

Design This Can Multimedia